An exciting restoration project between Natural Resources Wales (NRW) and the Amphibian and Reptile Conservation (ARC) Trust will help to boost numbers of great crested newt at Newport Wetlands National Nature Reserve.

(Darllen yn Gymraeg)

A network of six new ponds were created in February this year, which will help to restore and create new foraging and breeding habitats for the species.  Last year, four existing ponds were also restored on the reserve.

Great crested newts are a European Protected Species and their eggs, breeding sites and resting places are protected by law. They are threatened by the loss of breeding ponds through destruction or degradation of water quality, loss and fragmentation of terrestrial habitat and a rise in non-native invasive weeds.

The newts were previously known to breed at a shallow pond at Goldcliff Lagoons on the reserve. But in 2021 and 2022 the pond had dried up by late spring, meaning the larvae would have perished before metamorphosis, having an impact on their numbers.  

It is hoped that the new network of ponds will help to boost their population, as well as providing valuable habitat for other species of amphibians and dragonflies.

The ponds will also provide reservoirs of drinking water for farm stock which graze on the reserve.

The work was carried out by local contractor Des Williams of Williams Contracting, whose family have farmed in the area for generations.

Kevin Boina M’Koubou Dupé, Land Management officer for Natural Resources Wales said:

It’s really great to be able to work in partnership with colleagues from ARC to be able to carry out this work to boost great crested newts and other amphibian populations at Newport Wetlands.

“The scale and rate of biodiversity loss across the nation is accelerating, which is why partnership projects such as this are so important.

“The new ponds and enhancements of existing ponds will offer crucial foraging and breeding habitats.

“By working  with colleagues from other organisations on projects like this, we help play our part in helping wildlife to thrive and support nature’s recovery.

Pete Hill, ARC's South Wales Officer, said:

Collaborative projects such as this are vital so as to be able to bolster populations of declining species such as the great crested newt. 

"As the recently restored and newly created ponds mature, and plants and invertebrates establish themselves, the resulting restored corridor of increased foraging and breeding opportunities, will enable a stronger population of newts to establish, more resilient to the many challenges and threats posed to amphibians surviving in modern Wales.

"Recruitment levels of newts successfully metamorphosing are likely to have risen already, since the first phase of the project restoring pre-existing ponds, so completing this second phase, creating strategically placed new ponds, will “join up the dots” and provide opportunities for a nationally declining species to proliferate.

“Projects like this are part of the “front line” action of the Nature recovery programme.

Des Williams from Williams Contracting said:

I was born, grew up, work and still live on the Gwent Levels. I've always been interested in wildlife, so it's been very satisfying to be involved in this project. I've been an agricultural contractor all my working life. These are the first ponds that I have dug. There are several ponds in the area and these were dug by hand,  maybe a hundred years ago. It's good to be digging some new ponds that will help great crested newts and other wildlife.


 

Bydd gwaith partneriaeth yn helpu i hybu niferoedd madfallod prin yng Ngwlyptiroedd Casnewydd

(Read in English)

Bydd prosiect adfer cyffrous rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid (ARC) yn helpu i hybu niferoedd madfallod dŵr cribog yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd.

Crëwyd rhwydwaith o chwe phwll newydd ym mis Chwefror eleni, a fydd yn helpu i adfer a chreu cynefinoedd bridio a chwilota am fwyd ar gyfer y rhywogaeth. Y llynedd, cafodd 4 pwll oedd yn bodoli eisoes eu hadfer yn y warchodfa.

Mae madfallod dŵr cribog yn Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop ac mae eu hwyau, eu safleoedd bridio, a’u mannau gorffwys yn cael eu diogelu gan y gyfraith. Maen nhw dan fygythiad gan fod eu pyllau bridio yn cael eu colli o ganlyniad i ddinistrio neu ddirywiad yn ansawdd y dŵr, colli cynefinoedd ar y tir, a chynnydd mewn chwyn estron goresgynnol.

Roedd yn hysbys bod y madfallod yn arfer bridio ar un adeg mewn pwll bas ym Morlynnoedd Allteuryn yn y warchodfa. Ond yn 2021 a 2022 sychodd y pwll erbyn diwedd y gwanwyn, gan olygu y byddai'r larfa wedi marw cyn metamorffosis,

Y gobaith yw y bydd y rhwydwaith newydd o byllau yn helpu i hybu’r boblogaeth, yn ogystal â darparu cynefin gwerthfawr i rywogaethau eraill o amffibiaid a gweision y neidr.

Bydd y pyllau hefyd yn darparu cronfeydd dŵr yfed ar gyfer stoc fferm sy'n pori ar y warchodfa.

Gwnaed y gwaith gan y contractwr lleol Des Williams o gwmni Williams Contracting - teulu sydd wedi bod yn ffermio yn yr ardal ers cenedlaethau.

Meddai Kevin Boina M’Koubou Dupé, Swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae'n ardderchog gallu gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr o ARC i allu gwneud y gwaith hwn i hybu madfallod dŵr cribog a phoblogaethau o amffibiaid eraill yng Ngwlyptiroedd Casnewydd.

“Mae maint a chyfradd colli bioamrywiaeth ar draws y wlad yn cyflymu, a dyna pam y mae prosiectau partneriaeth fel hyn mor bwysig.

“Bydd y pyllau newydd, a gwelliannau i’r pyllau presennol yn sicrhau cynefinoedd bwydo a bridio hollbwysig.

“Trwy weithio gyda chydweithwyr o sefydliadau eraill ar brosiectau fel hyn, rydym yn helpu i wneud ein rhan i helpu bywyd gwyllt i ffynnu a chefnogi adferiad byd natur.

Meddai Peter Hill, Swyddog Cynefinoedd, Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid:

Mae prosiectau cydweithredol fel hyn yn hanfodol er mwyn gallu hybu poblogaethau o rywogaethau sy'n dirywio - fel y fadfall gribog fawr. 

“Wrth i'r pyllau sydd newydd eu hadfer a'u creu o’r newydd aeddfedu, ac wrth i blanhigion a chreaduriaid sefydlu eu hunain, bydd y coridor newydd o gyfleoedd i borthi a bridio yn caniatáu i boblogaeth gryfach o fadfallod sefydlu eu hunain - a’r boblogaeth honno’n un fwy gwydn, ac yn fwy parod am yr heriau a'r bygythiadau niferus sy’n wynebu amffibiaid yn y Gymru fodern.

"Mae lefelau’r madfallod sy’n cael eu creu’n llwyddiannus yn debygol o fod wedi codi eisoes, a chan fod cam cyntaf y prosiect yn adfer pyllau oedd yn bodoli eisoes, bydd cwblhau'r ail gam hwn, gan greu pyllau newydd mewn lleoliadau strategol, yn ‘cyfuno'r dotiau’ fel petai, ac yn darparu cyfleoedd i rywogaethau sy'n dirywio'n genedlaethol ffynnu ac amlhau.

"Mae prosiectau fel hyn yn rhan o weithgarwch ‘rheng flaen’ y rhaglen adfer natur.

Dywedodd Des Williams o Williams Contracting:

Ces i fy ngeni a fy magu yma - ac rwy’n dal i fyw a gweithio ar Wastadeddau Gwent. Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn bywyd gwyllt, felly mae wedi bod yn braf iawn bod yn rhan o'r prosiect hwn. Rwyf wedi bod yn gontractwr amaethyddol ar hyd fy ngyrfa. Dyma'r pyllau cyntaf i mi eu cloddio. Dwi wedi cloddio digon o ffosydd - ond byth pyllau. Mae sawl pwll yn yr ardal a gafodd eu cloddio â llaw - gan mlynedd yn ôl, efallai. Mae’n dda cael cloddio pyllau newydd a fydd yn helpu madfallod dŵr cribog a bywyd gwyllt yn gyffredinol.